Do you want to skip to content? Skip to content
Contact Us Convatec.com
False /oidc-signin/cy-gb/ Contact Us Convatec.com
Grŵp o dyrbinau gwynt ;

Hyb Gweithgynhyrchu Gwyrdd Convatec

Cais wedi ei gyflwyno

Mae ein cais wedi’i gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) a fydd yn ymgynghori arno maes o law.
I ddilyn ymgynghoriad PEDW ewch i'w porth gwaith achos cynllunio https://planningcasework.service.gov.wales/cy a defnyddiwch gyfeirnod CAS-02977-Y9F1W7.

Defnyddio’r gwynt a’r haul i bweru gweithgynhyrchu cynhyrchion meddygol cynaliadwy yn Rhymni.

Paragraff rhagarweiniol: Mae Convatec wedi ymrwymo i chwarae ei ran wrth helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac erbyn 2045 ein nod yw dod yn sero net ledled y byd. Yn rhan o’r ymgyrch hon i sicrhau sero net, ein nod yw lleihau’n sylweddol ein dibyniaeth ar nwy a thrydan grid yn ein gwaith yn Rhymni.

Mae ein gweithfeydd gweithgynhyrchu yn defnyddio llawer iawn o ynni a rhan allweddol o'n llwybr at gyflawni nod sero net yw cynhyrchu ein hynni adnewyddadwy ein hunain. Er mwyn cyflawni'r uchelgais hon, rydym yn cyflwyno cynlluniau i adeiladu hyb gweithgynhyrchu gwyrdd wrth ymyl ein cyfleuster cynhyrchu yn Rhymni. Byddai hyn yn golygu bod gan weithgynhyrchu yn ein cyfleuster sicrwydd cyflenwad a chostau rhagweladwy gydol oes 25 mlynedd y prosiect. Ar yr un pryd, bydd allyriadau carbon yn cael eu lleihau'n sylweddol yn unol â'n huchelgeisiau sero net.

Amdanom ni

Rydym yn gwmni cynhyrchion a thechnolegau meddygol byd-eang sy'n canolbwyntio ar atebion ar gyfer rheoli cyflyrau cronig.

Mae ein cynnyrch a'n datrysiadau'n cael eu gwerthu mewn bron i 100 o wledydd. Rydym yn cyflogi tua 10,000 o bobl ac mae gennym naw cyfleuster gweithgynhyrchu - dau ohonynt yn y DU, y ddau yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi mwy na 800 o bobl ar draws ein safleoedd yn Rhymni a Glannau Dyfrdwy.

Yn 2022, cafodd 840,000 o gleifion driniaeth â rhwymynnau Convatec a gynhyrchwyd yng Nghymru yn y DU, tra gwerthwyd 3.3 miliwn o orchuddion yng Nghymru yn unig.