Do you want to skip to content? Skip to content
Contact Us Convatec.com
False /oidc-signin/cy-gb/ Contact Us Convatec.com

Lleoliad y prosiect

map ;

Mae lleoliad y prosiect i’r de-orllewin o’n cyfleuster gweithgynhyrchu yn Rhymni. Mae’r tir yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer pori, sy’n golygu y bydd y defnydd arfaethedig newydd yn ategu gweithgareddau presennol ac yn galluogi’r ffermwr i arallgyfeirio defnydd.

Er mwyn sicrhau bod y cynllun mor effeithlon â phosibl, mae angen lleoli lleoliad y prosiect wrth ymyl ein cyfleuster gweithgynhyrchu. Bydd hyn yn ein galluogi i anfon y trydan a gynhyrchir yn uniongyrchol o'r hyb ynni i'n ffatri.

Gwyddys bod glo o dan y safle, ac mae wedi bod yn destun cais cynllunio yn flaenorol i ymestyn gweithgareddau cloddio arwyneb presennol yn yr ardal. Bydd y prosiect i bob pwrpas yn diogelu’r glo hwn yn y ddaear, lle gall aros ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Convatec am fod yn rhan o’r gwaith o sicrhau dyfodol gwyrddach i Gwm Rhymni sy’n canolbwyntio ar y defnydd o ynni adnewyddadwy ac arloesi i gynnal gweithgynhyrchu a thechnoleg gynaliadwy.

Mae gofalu am ein hamgylchedd yn ystyriaeth allweddol wrth i ni gyflwyno ein cynlluniau ar gyfer Hyb Gweithgynhyrchu Gwyrdd Convatec.

Rydym wedi cynnal amrywiaeth o astudiaethau amgylcheddol i sicrhau ein bod wedi nodi unrhyw effeithiau posibl a rhoi mesurau lliniaru priodol ar waith os bydd angen. Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaethau hyn ar gael ar y byrddau arddangos ac yn y dogfennau cais drafft, y gellir eu gweld yn ein harddangosfeydd cyhoeddus ac ar y wefan hon.