Cynigion
Ein cynigion ar gyfer Hyb Gweithgynhyrchu Gwyrdd Convatec:
- Tri thyrbin gwynt ag uchder llafn uchaf o 150 metr a chynhwysedd cyfunol o oddeutu 15MW.
- Fferm solar (aráe o baneli Solar Ffotofoltäig) gyda chynhwysedd o oddeutu 5MW.
- Gwifren breifat i gyflenwi ynni o'r hyb i'n cyfleuster gweithgynhyrchu yn Ystâd Ddiwydiannol Blaenau'r Cymoedd
- Is-orsaf drydanol ac adeilad rheoli
- Traciau mynediad a phadiau craeniau
- Cyrtiau adeiladu a storio dros dro
Gofalu am y gymuned
Mae gofalu am bobl wrth wraidd yr hyn a wnawn.Bydd Convatec yn cynnwys trigolion a sefydliadau lleol i helpu i sicrhau bod Hyb Gweithgynhyrchu Gwyrdd Convatec yn darparu'r budd mwyaf posibl ar draws y gymuned gyfan.
Rydym felly wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned leol i ddatblygu cynllun ochr yn ochr â’r datblygiad a all sicrhau budd cymunedol hirdymor ystyrlon. Byddai hyn ar ffurf cronfa gymunedol o tua £75,000 y flwyddyn, yn ogystal â'r ffaith y byddwn yn gweithio gyda’r gymuned i nodi opsiynau cyflenwi ynni lleol ar gyfer busnesau a sefydliadau cymunedol eraill.

Y broses gynllunio
Oherwydd maint a natur y prosiect, bydd yn cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) gan Lywodraeth Cymru.
Felly, bydd angen cyflwyno’r cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn cynnal ei ymgynghoriad cyhoeddus ei hun cyn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch a ddylid rhoi sêl bendith ar ein cynlluniau.
Wedyn gwneir penderfyniad gan Weinidogion Cymru.