Pam y prosiect hwn?
Yn wyneb ansicrwydd byd-eang, mae gennym gyfle i sicrhau sefydlogrwydd a thwf drwy ddefnyddio’r adnoddau naturiol o’n cwmpas yn effeithiol.
Mae defnyddio gwynt a haul i gynhyrchu ein trydan gwyrdd ein hunain yn golygu y gallwn ni leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil wedi'i fewnforio, sydd ag allyriadau carbon cysylltiedig uchel, ac sy'n gallu amrywio'n sylweddol o ran pris.
Wrth ddatgarboneiddio gweithgynhyrchu yng Nghymru, sydd â rhan bwysig i’w chwarae o ran cyflawni sero net, bydd hyn yn ei dro yn ein helpu i gefnogi swyddi gweithgynhyrchu hirdymor drwy leihau gwastraff a rheoli ein costau gweithredu’n ofalus.
Sut mae hyn yn wahanol i brosiectau ynni lleol eraill?
Rydym yn ymwybodol bod cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol eraill ar y gweill y bydd angen eu hystyried mewn perthynas â’n cynlluniau a’r effaith gronnol bosibl.
Mae'r prosiect hwn yn wahanol i'r rhai sy'n cael eu cyflwyno gan ddatblygwyr ynni.
Mae Convatec yn fusnes lleol hirsefydlog sydd wedi’i leoli yng nghanol cymuned Rhymni. Mae ein cynllun yn ymwneud â sicrhau dyfodol gwyrdd hirdymor i gyfleuster Convatec, lle rydym yn bwriadu parhau i gael ein lleoli am flynyddoedd i ddod.
Mae gan yr ynni dros ben a gynhyrchir gan Hyb Gweithgynhyrchu Gwyrdd Convatec hefyd y potensial i gynnig budd ychwanegol go iawn ac unigryw i gymuned Rhymni. Rydym yn awyddus i nodi cyfleoedd ar gyfer, ac adeiladu yn ein cynlluniau, agwedd gymunedol gref i’r prosiect ac rydym yn archwilio opsiynau gyda’r Awdurdod Lleol i gyflenwi’r galw presennol yn ogystal â datblygiadau yn y dyfodol.