Ymgynghoriad Statudol
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cymunedol ystyrlon dau gam sy'n anelu at gyflwyno canlyniadau hirdymor cadarnhaol i gymuned Rhymni.
Ers i ni gyflwyno ein cynigion sy'n dod i'r amlwg yn ôl ym mis Mehefin 2023, rydym wedi bod yn gwneud y gwaith sydd ei angen i gyflawni'r cynlluniau hyn, ac rydyn ni nawr yn paratoi i gyflwyno ein cynigion manwl i Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynigion hyn, sydd wedi ystyried astudiaethau amgylcheddol a thechnegol helaeth, yn ogystal ag adolygiad o'r adborth o'n hymgynghoriadau cyhoeddus cynnar, yn sail i'r ymgynghoriad statudol chwe wythnos hwn.
I weld ein cynigion manwl ac i ddweud eich dweud, galwch heibio rhwng yr amseroedd hyn yn y lleoliadau canlynol:
3pm i 6pm | Dydd Mercher 15 Mai 2024 | Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf, Teras Oakland Rhymni NP22 5EP |
10am i 2pm | Dydd Iau 16 Mai 2024 | Canolfan Ddydd Rhymni, Stryd Tre-York Rhymni NP22 5LR |
Os na allwch ddod i'n digwyddiadau, mae PDF y gellir ei lawrlwytho o'r byrddau arddangos ar gael yma.
Gallwch hefyd weld y ffotogyfosodiadau sy'n dangos sut byddai'r Hyb yn edrych o wahanol olygfannau yma
Mae'r dogfennau cais drafft ar gael yma
Bydd ffurflen adborth ar gael yn y digwyddiadau a gellir ei chwblhau ar-lein yma hefyd.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn dydd Mercher 29 Mai.